Meta tags:
Headings (most frequently used words):
llwybr, treftadaeth, canmlwyddiant, saesneg, your, cart,
Text of the page (most frequently used words):
hailey (33), gyda (18), taf (15), atgynhyrchwyd (14), chaniatâd (14), bont (12), mae (11), gan (11), #llwybr (11), park (11), parc (10), llandaf (9), roedd (9), cymru (9), caerdydd (9), claude (9), caredig (8), what3words (8), lleoliad (8), morgannwg (8), treftadaeth (8), afon (7), barc (6), dyffryn (6), hen (6), lleol (6), road (6), local (6), news (6), yng (5), gamlas (5), tua (5), radyr (5), teulu (5), tennis (5), cyngor (5), reilffordd (4), ystum (4), wrth (4), hon (4), fel (4), ail (4), ryfel (4), byd (4), ystod (4), wedi (4), canmlwyddiant (4), other (4), friends (4), area (4), nature (4), the (4), 2025 (3), cyfeillion (3), traphont (3), blaen (3), gallwch (3), weld (3), hyd (3), dolen (3), rhan (3), bod (3), pont (3), ymyl (3), rheilffordd (3), mharc (3), llywodraeth (3), rhandiroedd (3), erbyn (3), hamdden (3), rygbi (3), ardal (3), map (3), archifau (3), povey (3), trail (3), english (3), saesneg (3), your (2), gorsaf (2), pwmp (2), melin (2), gruffydd (2), ngorsaf (2), ychydig (2), adeiladwyd (2), dyma (2), rhestredig (2), gradd (2), triongl (2), dangos (2), adeiladu (2), ddolen (2), 1900 (2), amgueddfa (2), radur (2), gyfer (2), glo (2), welwch (2), tan (2), rhwng (2), llun (2), awyr (2), oherwydd (2), trafnidiaeth (2), 1898 (2), rhyd (2), cyn (2), draw (2), 1926 (2), dir (2), aelodau (2), clwb (2), 1924 (2), casgliad (2), pritchard (2), gynnwys (2), cyrtiau (2), lawnt (2), fowlio (2), camlas (2), dyddiad (2), anhysbys (2), heddiw (2), heol (2), mawr (2), ger (2), and (2), domen (2), wastraff (2), gae (2), agored (2), cae (2), hwn (2), adran (2), contact (2), groups (2), cardiff (2), representatives (2), lost (2), found (2), dogs (2), info (2), useful (2), links (2), sightings (2), woodland (2), management (2), meadowlife (2), biodiversity (2), voluntary (2), work (2), getting (2), there (2), heritage (2), centenary (2), gallery (2), history (2), data (2), protection (2), meetings (2), minutes (2), constitution (2), membership (2), committee (2), about (2), home (2), powered, get, started, create, own, unique, website, with, customizable, templates, dŵr, nodwedd, gwblhawyd, isambard, kingdom, brunel, 1841, ynghyd, canopi, platfform, gerllaw, strwythurau, gweladwy, gwreiddiol, linell, nghaerdydd, dwr, 1807, bellter, ffwrdd, pridd, dan, draphont, glan, fwydo, unig, adeilad, indeed, sketch, rash, glaswellt, graean, wyro, hollti, trac, cyfres, luniau, codwyd, ddarparu, osgoi, iard, gynnull, chwarae, bwysig, ddiwydiannau, nghymoedd, darparu, cyswllt, dosbarthu, nwyddau, eraill, cyfan, weddill, groesai, 1999, hailagorwyd, droed, 2013, cysylltu, dwy, ochr, danescourt, hwyluso, cyfleoedd, cerdded, beicio, mwy, hygyrch, gymunedau, ehangach, squad, slide, froth, bwrdd, gwybodaeth, randiroedd, 1941, raf, medmenham, crëwyd, ymgyrch, dig, for, victory, frwydro, prinder, bwyd, tarfu, gysylltiadau, rhyfel, dychwelodd, ddibenion, wasanaethu, gweithwyr, chymunedau, diwydiant, ddiweddarach, gosodwyd, caeau, defnyddir, rheolaidd, glybiau, gaeau, llyfrgell, genedlaethol, alban, dramwyfa, 1750au, croesi, fyny, court, eglwys, sant, ioan, dafarn, maenordy, gydag, amser, symudodd, datblygiad, ganolfan, boblogaeth, gogledd, faces, study, gain, gwyrdd, lle, briallu, cael, plannu, lwybr, ryd, llawysgrif, oleuedig, roddwyd, ddinas, mrs, mehefin, rhodd, lawysgrif, ddarluniadol, olion, gerrig, nghanol, ddeunawfed, ganrif, pen, arall, fan, disodlwyd, 1980au, ffordd, bresennol, leihau, perygl, lifogydd, mary, street, harder, foil, drew, ategwaith, fewn, rhoddodd, gertrude, arian, mwyn, sefydlu, cyhoeddus, treuliodd, yrfa, chyfnewidfa, bencampwr, awyddus, eang, gyfleusterau, chwaraeon, cychod, golf, cwrs, byr, oedd, genedigaeth, agorwyd, swyddogol, mai, dress, shrimp, steep, hysbysfwrdd, geni, golwg, 1947, ddu, dros, dal, gael, defnyddio, groesi, mhen, gogleddol, dechreuwyd, merthyr, 1790, gludo, metelau, ddociau, hallforio, chwyldro, diwydiannol, 1870au, dirywio, twf, rheilffyrdd, rhedeg, hyn, sydd, bellach, loc, rhif, tafarn, cow, snuffers, disraeli, house, llenwi, 1950au, nodi, res, goed, pisgwydd, gweld, dish, cages, care, fynedfa, hazelhurst, fflatiau, dymchwel, simnai, gaiff, adnabod, safai, llandaff, brick, stone, company, nes, iddo, fynd, segur, fentrau, llai, llwyddiannus, dyn, busnes, solomon, andrews, gartref, ddinesig, 1970au, pan, gafodd, gapio, adael, wyrddu, estynedig, barcdir, clean, battle, album, mynedfa, here, details, yma, manylion, munud, pellter, ariannu, garedig, grant, diolch, fawr, hefyd, gyngor, cymorth, prosiect, enwedig, ceidwaid, nic, gareth, barciau, ymchwil, cynhyrchu, gosod, ymdrech, cyd, gyfeillion, pharciau, diolchiadau, cylchdaith, amgylch, hanes, cart, search, typing, pressing, enter,
Text of the page (random words):
llwybr treftadaeth cymru friends of hailey park friends of hailey park home about us committee membership constitution meetings minutes data protection hailey park history claude hailey gallery centenary heritage trail english llwybr treftadaeth cymru map the park getting there news other news voluntary work on the park nature nature news biodiversity meadowlife woodland management park sightings useful links local area info local area lost found dogs local representatives other friends groups in cardiff contact home about us committee membership constitution meetings minutes data protection hailey park history claude hailey gallery centenary heritage trail english llwybr treftadaeth cymru map the park getting there news other news voluntary work on the park nature nature news biodiversity meadowlife woodland management park sightings useful links local area info local area lost found dogs local representatives other friends groups in cardiff contact search by typing pressing enter your cart llwybr treftadaeth canmlwyddiant saesneg cylchdaith o amgylch hanes parc hailey llwybr treftadaeth canmlwyddiant saesneg diolchiadau mae llwybr treftadaeth y canmlwyddiant wedi i ariannu n garedig gan grant gan trafnidiaeth cymru diolch yn fawr hefyd i gyngor caerdydd am eu cymorth gyda r prosiect hwn yn enwedig y ceidwaid nic a gareth gyda r adran barciau mae ymchwil cynhyrchu a gosod y llwybr treftadaeth canmlwyddiant hwn wedi bod yn ymdrech ar y cyd gan gyfeillion adran parc a pharciau hailey cyngor caerdydd pellter tua 3 20 km 45 munud manylion yn saesneg yma trail details in english here 1 cae povey lleoliad mynedfa i barc hailey yn radyr road what3words clean battle album o ch blaen fe welwch gae agored a gaiff ei adnabod yn lleol fel cae povey safai y llandaff brick and stone company ar gae povey nes iddo fynd yn segur erbyn 1898 roedd yn un o fentrau llai llwyddiannus y dyn busnes lleol solomon andrews ar ôl yr ail ryfel byd roedd yn gartref i domen wastraff ddinesig tan y 1970au pan gafodd ei gapio a i adael i wyrddu fel rhan estynedig o barcdir agored parc hailey dymchwel simnai r domen wastraff dyddiad anhysbys atgynhyrchwyd gyda chaniatâd caredig archifau morgannwg cyngor caerdydd 2 hen gamlas morgannwg lleoliad wrth y fynedfa i barc hailey yn hazelhurst road ger y fflatiau what3words dish cages care dechreuwyd adeiladu camlas morgannwg ym merthyr ym 1790 i gludo glo a metelau i ddociau caerdydd i w hallforio yn ystod y chwyldro diwydiannol erbyn y 1870au roedd y gamlas yn dirywio oherwydd twf y rheilffyrdd roedd yn rhedeg ar hyd ymyl yr hyn sydd bellach yn barc hailey o heol ty mawr i loc llandaf rhif 45 ger tafarn y cow and snuffers disraeli house er bod y gamlas wedi i llenwi yn ystod y 1950au mae ei llwybr ym mharc hailey wedi i nodi gan res o goed pisgwydd y gallwch eu gweld heddiw pont ddu dros gamlas morgannwg dyddiad anhysbys mae r bont yn dal i gael ei defnyddio heddiw gan groesi heol ty mawr ym mhen gogleddol parc hailey atgynhyrchwyd gyda chaniatâd caredig amgueddfa cymru camlas morgannwg parc hailey golwg o r awyr 1947 atgynhyrchwyd gyda chaniatâd llywodraeth cymru 3 geni parc hailey lleoliad wrth ymyl yr hysbysfwrdd rhwng cyrtiau tennis a lawnt fowlio what3words dress shrimp steep rhoddodd claude a gertrude hailey dir ac arian i r cyngor er mwyn sefydlu parc cyhoeddus treuliodd claude hailey ei yrfa gyda rheilffordd dyffryn taf a chyfnewidfa lo caerdydd roedd claude hailey yn bencampwr tennis lleol ac yn awyddus i gynnwys ystod eang o gyfleusterau hamdden a chwaraeon gan gynnwys cyrtiau tennis lawnt fowlio cychod a golf cwrs byr dyma oedd genedigaeth parc hailey a agorwyd yn swyddogol ar 3 mai 1926 llun o claude hailey atgynhyrchwyd gyda chaniatâd teulu claude hailey aelodau clwb tennis ystum taf tua 1924 casgliad teulu pritchard atgynhyrchwyd gyda chaniatâd archifau morgannwg cyngor caerdydd aelodau clwb tennis ystum taf tua 1924 casgliad teulu pritchard atgynhyrchwyd gyda chaniatâd archifau morgannwg cyngor caerdydd 4 hen bont llandaf lleoliad cyn ategwaith o fewn parc hailey what3words harder foil drew o ch blaen mae olion hen bont llandaf a adeiladwyd o gerrig yng nghanol y ddeunawfed ganrif gallwch weld pen arall y bont y tu draw i r afon o r fan hon disodlwyd y bont hon yn y 1980au gan y bont ffordd bresennol i leihau r perygl o lifogydd i ardal mary street hen bont llandaf o lawysgrif ddarluniadol atgynhyrchwyd gyda chaniatâd caredig teulu claude hailey llawysgrif oleuedig a roddwyd gan ddinas caerdydd i mr a mrs hailey ar 14 mehefin 1926 am y rhodd o dir ar gyfer hamdden atgynhyrchwyd gyda chaniatâd caredig teulu claude hailey 5 hen ryd radyr road lleoliad triongl gwyrdd lle mae briallu yn cael eu plannu ar lwybr yr afon what3words faces study gain roedd radyr road yn dramwyfa cyn y 1750au roedd yn croesi rhyd afon taf ac i fyny radyr court road draw i eglwys sant ioan y dafarn a r maenordy gydag amser symudodd datblygiad y rheilffordd dyffryn taf y ganolfan boblogaeth hon i r gogledd tua ardal gorsaf radur 1898 map yr ao yn dangos rhyd radyr road atgynhyrchwyd gyda chaniatâd caredig llyfrgell genedlaethol yr alban 6 rhandiroedd yr ail ryfel byd i gaeau rygbi lleoliad what3words yn ystod yr ail ryfel byd crëwyd rhandiroedd ym mharc hailey fel rhan o r ymgyrch dig for victory i frwydro yn erbyn prinder bwyd oherwydd y tarfu ar gysylltiadau trafnidiaeth ar ôl y rhyfel dychwelodd rhandiroedd hailey park i ddibenion hamdden i wasanaethu gweithwyr a chymunedau o r diwydiant lleol yn ddiweddarach gosodwyd caeau rygbi ac fe u defnyddir yn rheolaidd gan glybiau rygbi lleol yn yr ardal llun o r awyr o randiroedd yr ail ryfel byd ym mharc hailey 1941 llywodraeth cymru raf medmenham atgynhyrchwyd gyda chaniatâd caredig llywodraeth cymru 7 pont rheilffordd dolen llandaf lleoliad wrth ymyl bwrdd gwybodaeth llwybr treftadaeth dyffryn taf what3words squad slide froth codwyd y bont y ddolen ym 1900 i ddarparu dolen osgoi o hen iard gynnull radur ar i reilffordd dyffryn taf yng ngorsaf llandaf roedd y bont yn chwarae rhan bwysig i ddiwydiannau yng nghymoedd morgannwg gan ei bod yn darparu cyswllt ar gyfer dosbarthu glo a nwyddau eraill y bont hon a welwch yw r cyfan sy n weddill o reilffordd dolen llandaf a groesai barc hailey tan 1999 fe i hailagorwyd fel pont droed yn 2013 ac mae n cysylltu dwy ochr afon taf rhwng danescourt ac ystum taf mae n hwyluso cyfleoedd cerdded a beicio mwy hygyrch i gymunedau lleol ac ehangach caerdydd cyfres o luniau yn dangos adeiladu r bont ddolen tua 1900 atgynhyrchwyd gyda chaniatâd caredig amgueddfa cymru 8 traphont afon taf rhestredig gradd ii lleoliad ar y triongl glaswellt wrth i r llwybr graean wyro a hollti gyda r trac i r bont what3words indeed sketch rash o ch blaen gallwch weld traphont afon taf dyma r unig adeilad rhestredig gradd ii yn ystum taf roedd yn nodwedd o reilffordd dyffryn taf a gwblhawyd gan isambard kingdom brunel ym 1841 ynghyd â r canopi platfform yng ngorsaf llandaf gerllaw mae n un o r ychydig strwythurau gweladwy gwreiddiol o linell dyffryn taf yng nghaerdydd mae pwmp dwr melin gruffydd a adeiladwyd ym 1807 i w weld ychydig bellter i ffwrdd ar hyd llwybr pridd o dan y draphont ac ar hyd glan y gamlas fwydo traphont afon taf 2025 atgynhyrchwyd gyda chaniatâd caredig cyfeillion parc hailey mae pwmp dŵr melin gruffydd 2025 atgynhyrchwyd gyda chaniatâd cyfeillion o barc hailey gorsaf reilffordd llandaf 2025 atgynhyrchwyd gyda chaniatâd cyfeillion o barc hailey powered by create your own unique website with customizable templates get started
|